Psalms 57

Gweddi am help

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw "Paid dinistrio". Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd pan oedd wedi ffoi rhag Saul i'r ogof. a

1Dangos drugaredd ata i, O Dduw,
dangos drugaredd ata i!
Dw i'n troi atat ti am loches.
Dw i am guddio dan dy adenydd di
nes bydd y storm yma wedi mynd heibio.
2Dw i'n galw ar Dduw, y Goruchaf;
ar y Duw sydd mor dda tuag ata i.
3Bydd yn anfon help o'r nefoedd i'm hachub.
Bydd yn herio y rhai sy'n fy erlid.

 Saib
Bydd yn dangos ei ofal ffyddlon amdana i!
4Mae llewod ffyrnig o'm cwmpas i ym mhobman,
rhai sy'n bwyta pobl –
Mae eu dannedd fel picellau neu saethau,
a'u tafodau fel cleddyfau miniog.
5Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,
i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
6Maen nhw wedi gosod rhwyd i geisio fy nal –
a minnau'n isel fy ysbryd.
Maen nhw wedi cloddio twll ar fy nghyfer i,
ond nhw fydd yn syrthio i mewn iddo!

 Saib
7Dw i'n benderfynol, O Dduw;
dw i'n hollol benderfynol!
Dw i'n mynd i ganu mawl i ti!
8Deffro, fy enaid!
Deffro, nabl a thelyn!
Dw i'n mynd i ddeffro'r wawr gyda'm cân.
9Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O Arglwydd, o flaen pawb!
Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl!
10Mae dy gariad di mor uchel â'r nefoedd,
a dy ffyddlondeb di yn uwch na'r cymylau.
11Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,
i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
Copyright information for CYM